Gen i lyfr ar log ar hyn o bryd gan Fan y Fro sy’n dod heibio’r tŷ ar Ddydd Mawrth weithiau. “Wyneb Doniol” ydy enw’r llyfr, i blant bach gan fod gen i ferch fach sydd ar fin dechrau ysgol feithrin cyn bo hir.
Y’ chi siŵr o fod yn gyfarwydd gyda’r fath o lyfr yma, cyfle i wneud ystumiau i’r plentyn wrth gopïo’r wynebau yn y llyfr; oni bai bod yna hefyd stori syml (iawn) i ddilyn hefyd. Felly mae’r plentyn (a’r rhiant os yn ddysgwr/aig) yn gallu dysgu wynebau newydd mewn cyd-destun. Go handi ynde.
Nawr mae’r wyneb “hapus” sy’n gyntaf yn ddigon hawdd wrth gwrs, wrth fod y plentyn yn y stori yn chwarae’n hwylus. Yn syth bin wedyn ‘ny, mae’r bachgen bach yn cael sioc o gwrdd ag arth; wyneb syn felly a gair go anodd i un fechan. Yn grac mae’r plentyn wrth i’r arth dwgyd y bel; ac yn dibynnu ar eich tafodiaith mae’r wyneb “dig” yn air newydd hefyd. Daw’r geiriau “drygionus” a “phryderus” i’r amlwg hefyd yn y gyfrol, mewn cyd-destun hawdd i ddeall ac yn rhan o stori digon diddorol i ddifyrru’r plentyn wrth ddysgu geirfa gyfoethog.
Beth bynnag, ma hi’n llyfr andros o dda i ddefnyddio i ddarllen i blentyn tua thair blwydd oed; ac wrth orffen y llyfr wrth gwrs sai’n credo mod i yn sbwylio’r sypreis i chi os y’ fi’n dweud taw drych sy ‘na gyda’r wyneb mwyaf doniol yw “Dy wyneb di” wrth gwrs!
Be sy hefyd yn ddiddorol i fi fel rhywun sydd wedi astudio Ieithyddeg yn y gorffennol yw bod y frawddeg ola ‘na gen i yn arddangos y ddwy ffordd o gyfarch y darllenydd yn y Gymraeg,. Dwi’n dueddol o ddefnyddio’r ffurf ffurfiol “chi” wrth ysgrifennu i unrhywun nad ydw i’n nabod yn dda; o ganlyniad o fy addysg yng Ngorllewin Cymru mae’n siŵr (i chi!).
Yn y llyfr yma i blant oedolyn, sef awdur y llyfr (Nicolas Sïem felly ie cyfieithiad/addasiad ydyw, ac yn un o lyfrau’r ymgyrch Booksmart dwi newydd sylwi) sy’n cyfarch y plentyn felly er nad yw hi’n nabod y darllenydd, cyrraedd y plentyn yw nod y llyfr felly dwi’n ddigon hapus i dderbyn taw’r ffurf anffurfiol “ti” yw’r ffurf gywir. Yn y cyd-destun yma ta beth, gan mai fi’n sy’n darllen y stori i fy merch.
Be ddwi ddim mor hapus i weld a chlywed yw’r gorddefnydd (yn fy marn i) o’r ffurf yma yn y cyfryngau yn ddiweddar ; o BBC Radio Cymru yn gofyn i fi fel hen ffrind i ffonio mewn i hysbysebion llet’with ar S4C yn gofyn beth ydw i’n ei gredu: “Beth hoffet ti wneud …” neu “Beth hoffet ti ddweud…”. Wel dim yw dim os y chi’n gofyn fel’na missus!
Sai’n siŵr beth yw tarddiad hyn, mae’n siŵr ryw fath o ymchwil neu gamsyniad mai dyna sut ma dyn yn hoffi cael ei annog gan y cyfryngau, ond yr ymadrodd bach yna sy’n well ‘da fi wedi treulio amser yn nhafarndai Ceredigion ar brynhawn Sadwrn wedi’r chwaraeon. “Beth ma dyn yn meddwl o hyn tybed?” sy’n well gen i glywed. Neu “chi” weithie hefyd, er mwyn bod yn gwrtais yndyfe.
A ma’r dyn yma’n tybio bod y pla wedi cyrraedd y we erbyn hyn hefyd. “Hoffet ti ysgrifennu erthygl i Metastwnsh” gofynnodd y wefan…[Er tegwch, mae’r adborth i’r wefan honno wedi awgrymu bod
“chi” yn rhy fformal i’r we.]
Wel, gan bo CHI’n cynnig yndyfe! Wrth gwrs, gall y defnydd yna o chi fod yn iawn yn y Gymraeg gan efallai bod yna sawl un y tu ôl i’r llenni’r wefan. Sy’n eitha handi pan ma dyn yn sgwennu ebost i rywun mewn sefydliad arall, er enghraifft.
Ac yn ôl y rhaglen ma dyn yn defnyddio i sgwennu rhywbeth hirach yn y Gymraeg, “Gan eich bod chi yn cynnig” dylai hynny fod hefyd! Felly mae’n rhaid bod yn ofalus wrth deipio hefyd.
Fel rhywun sy’n gyfarwydd a defnyddio’r ddwy iaith gyda’r teulu a pherthnasau agos a phell, weithiau dwi yn dala fy hun yn defnyddio’r Gymraeg “chi” i bobl dwi’n nabod yn ddigon da i ddefnyddio “ti”, ond efallai bod y syniad o barch mor annatod yn fy ieithwedd fel bod hynny’n aros hyd yn oed i berthnasau agos sy’n digwydd bod yn henach na fi (hyd yn oed ‘nhad weithiau!). Ma’r dyn yn haeddu rywfaint o barch wrth gwrs, yn naturiol.
I ddweud y gwir o fewn teulu sai’n siwr os yw’r “rheolau” yn newid o deulu i deulu neu be…”Ti” neu “Chi” byddai hen dadcu i chi? Ac i ti?…
Nid y Cymry’n unig sy’n straffaglu gyda’r system hynafol yma, i ddweud y gwir mae gan y fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd o T/V , a enwir ar ôl y Ffrangeg “Tu” a “Vous” wrth gwrs.
Efallai byddai ambell un o’r sawl sy’n byw yn ein plith yn wlad hon sy’n unieithog yn honni mae anodd a lletchwith ar y naw yw’r holl system T/V yma; mond un peth arall i boeni ambiti wrth geisio meistroli iaith.
Ond hoffwn i orffen drwy eich atgoffa bod meistroli iaith yn golygu meistroli cyfathrebu;
ac fel y gwelir fan hyn nid hawdd yw deall popeth yn yr iaith fain chwaith…
“…when are you ever going to need a second language? Sorry, when I say you I don’t mean you obviously…
Galle dyn ddadlau taw “when would one ever…”
byddai’r Saesneg cywir yn y frawddeg yna ond wi’n credu bo ti’n gwybod pwy ma hynny i glywed fel, yn dwyt ti?
Na, fi dal ddim yn lico fe, sori. Hwyl i chi am y tro te!
Tan toc, da bo.